Rheoliadau drafft a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 48(3) o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, i’w cymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

2018 Rhif (Cy. )

Newid yn yr Hinsawdd, Cymru

Rheoliadau Cyfrifyddu Carbon (Cymru) 2018

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

 

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ynghylch cyfrifyddu carbon ac unedau carbon at ddibenion cyfrifo cyfrif allyriadau net Cymru o dan Ran 2 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016.

 

Diben Rhan 2 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 yw ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyrraedd targedau ar gyfer lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr o Gymru. Mae adran 29 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru sicrhau bod cyfrif allyriadau net Cymru ar gyfer y flwyddyn 2050 o leiaf 80% yn is na gwaelodlin 1990. Mae adran 33 yn darparu mai cyfrif allyriadau net Cymru ar gyfer cyfnod yw swm allyriadau net Cymru o nwyon tŷ gwydr, minws unrhyw unedau carbon a gredydir i’r cyfrif a phlws unrhyw unedau carbon a ddidynnir o’r cyfrif yn ystod y cyfnod.

 

Mae rheoliad 3 yn diffinio pa unedau carbon y caiff eu cynnwys yng nghyfrif allyriadau net Cymru.

 

Mae rheoliad 4 yn galluogi Gweinidogion Cymru i agor “cyfrif credyd Cymru” ac yn darparu bod rhaid i unrhyw uned garbon sydd i’w chredydu i gyfrif allyriadau net Cymru gael ei chadw yn y cyfrif hwnnw. Ar ôl i uned garbon gael ei lleoli yng nghyfrif credyd Cymru, ni ellir ond ei thynnu allan eto er mwyn ei dileu, oni bai bod gweinyddwr y gofrestrfa wedi ei fodloni bod amodau penodol wedi eu diwallu.

 

Mae rheoliad 5 yn amlinellu’r ffordd y caniateir credydu unedau carbon i gyfrif allyriadau net Cymru. Rhaid eu cadw yng nghyfrif credyd Cymru a rhaid i Weinidogion Cymru ddatgan eu bod wedi eu credydu yn unol â rheoliad 5. Bydd hyn yn ei gwneud yn ofynnol trosglwyddo i’r “Cyfrif Dileu Gwirfoddol”.

 

Mae rheoliad 6 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gynnal cofrestr sy’n cynnwys manylion yr unedau carbon a gredydir i gyfrif allyriadau net Cymru ac a ddidynnir ohono ynghyd â manylion yr unedau carbon sydd wedi eu dileu yn unol â rheoliad 4.

Yn unol ag adran 49 o’r Ddeddf, mae Gweinidogion Cymru wedi cael cyngor gan y corff cynghori, ac wedi ystyried y cyngor a gafwyd, cyn gosod rheoliadau drafft.

 

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

 

 

 

 


Rheoliadau drafft a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 48(3) o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, iw cymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

2018 Rhif (Cy. )

Newid yn yr Hinsawdd, Cymru

Rheoliadau Cyfrifyddu Carbon (Cymru) 2018

Gwnaed                                                 ***

Yn dod i rym                                           ***

Gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddo drwy benderfyniad yn unol ag adran 48(3) o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016([1]). 

Cyn i’r drafft gael ei osod, cafodd Gweinidogion Cymru gyngor gan y Pwyllgor ar Newid Hinsawdd, ac fe wnaethant ystyried y cyngor a gafwyd, yn unol ag adran 49(1) o’r Ddeddf.

Yn unol â hynny, mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 33(2) a (3) a 36(1), (2) a (4) o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Enwi a chychwyn

1.(1)(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyfrifyddu Carbon (Cymru) 2018.

(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym drannoeth y diwrnod y’u gwneir.

 

Dehongli

2.(1)(1) Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “cofrestrfa’r DU” (“the UK registry”) yw’r gofrestrfa a sefydlwyd ar gyfer y Deyrnas Unedig yn unol â’r Rheoliad Cofrestrfeydd;

ystyr “Confensiwn Fframwaith y Cenhedloedd Unedig ar Newid yn yr Hinsawdd” (“the UNFCCC”) yw’r Confensiwn a lofnodwyd yn Efrog Newydd ar 9 Mai 1992;

mae i “cyfrif credyd Cymru” (“the Welsh credit account”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 4(1);

mae i “gweinyddwr y gofrestrfa” yr ystyr a roddir i “the registry administrator” yn rheoliad 8(1) o Reoliadau’r Cynllun Masnachu Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr 2012([2]);

ystyr “Protocol Kyoto” (“Kyoto Protocol”) yw Protocol Kyoto Confensiwn Fframwaith y Cenhedloedd Unedig ar Newid yn yr Hinsawdd a lofnodwyd yn Kyoto ar 11 Rhagfyr 1997;

ystyr “y Rheoliad Cofrestrfeydd” (“the Registries Regulation”) yw Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 389/2013 sy’n sefydlu Cofrestrfa yr Undeb yn unol â Chyfarwyddeb 2003/87/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor, Penderfyniadau Rhif 280/2004/EC a Rhif 406/2009/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor a diddymu Rheoliadau’r Comisiwn (EU) Rhif 920/2010 a Rhif 1193/2011([3]).

(2) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “dileu” uned garbon yw dileu’n wirfoddol yn unol â’r Rheoliad Cofrestrfeydd, a chaiff uned ei “dileu” os yw Gweinidogion Cymru yn rhoi cyfarwyddyd i weinyddwr y gofrestrfa ei throsglwyddo i’r cyfrif o’r enw’r “Cyfrif Dileu Gwirfoddol” yng nghofrestrfa’r DU.

Unedau carbon

3.(1)(1) At ddibenion Rhan 2 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, mae gostyngiadau allyriadau ardystiedig yn unedau carbon.

(2) Mae i bob uned garbon swm cyfwerth ag 1 dunnell o garbon deuocsid.

(3) Yn y rheoliad hwn, ystyr “gostyngiad allyriad ardystiedig” yw uned a ddyroddwyd o dan Erthygl 12 o Brotocol Kyoto a’r penderfyniadau a fabwysiadwyd o dan Gonfensiwn Fframwaith y Cenhedloedd Unedig ar Newid yn yr Hinsawdd neu Brotocol Kyoto.

Cyfrif credyd Cymru

4.(1)(1) Caiff Gweinidogion Cymru roi cyfarwyddyd i weinyddwr y gofrestrfa agor cyfrif (“cyfrif credyd Cymru”) yng nghofrestrfa’r DU at y diben o ddal unedau carbon sydd i’w credydu i gyfrif allyriadau net Cymru yn unol â rheoliad 5.

(2) Rhaid defnyddio cyfrif credyd Cymru i ddal uned garbon sydd i’w chredydu i Gyfrif Allyriadau Net Cymru.

(3) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), ni chaniateir trosglwyddo unedau carbon sydd yng nghyfrif credyd Cymru allan o’r cyfrif hwnnw ac eithrio at ddibenion dileu.

(4) Caiff gweinyddwr y Gofrestrfa drosglwyddo uned o garbon allan o gyfrif credyd Cymru at ddibenion ac eithrio dileu os yw wedi ei fodloni—

                            (i)    nad oes datganiad o dan reoliad 5(2) wedi ei wneud mewn cysylltiad â’r uned garbon honno; a

                          (ii)    y cafodd yr uned garbon ei throsglwyddo i gyfrif credyd Cymru mewn camgymeriad.

(5) Mae unrhyw uned garbon a drosglwyddwyd allan o gyfrif credyd Cymru yn unol â pharagraff (4) i’w dychwelyd i’r cyfrif y cafodd ei throsglwyddo ohono yn wreiddiol.

Pŵer i gredydu unedau carbon i gyfrif allyriadau net Cymru 

5.(1)(1) Caniateir credydu unedau carbon i gyfrif allyriadau net Cymru yn unol â’r rheoliad hwn.

(2) Caiff uned garbon ei chredydu i gyfrif allyriadau net Cymru—

(a)     os yw yng nghyfrif credyd Cymru;

(b)     os yw Gweinidogion Cymru yn datgan bod yr uned garbon wedi ei chredydu i gyfrif allyriadau net Cymru; ac

(c)     os, yn dilyn datganiad Gweinidog Cymru, y caiff yr uned garbon ei dileu.

(3) Mewn perthynas â datganiad o dan baragraff (2)—

(a)     rhaid iddo ddatgan y flwyddyn y mae’r uned garbon i’w chredydu mewn cysylltiad â hi; a

(b)     caniateir ei wneud yn y fath fodd ac ar y cyfryw adeg y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol.

(4) Ni chaiff Gweinidogion Cymru wneud datganiad o dan baragraff (2) os ydynt yn credu’n rhesymol bod yr uned garbon wedi ei defnyddio i osod yn erbyn allyriadau nwyon tŷ gwydr nad ydynt yn allyriadau Cymru.

Cofrestr o drafodiadau

6.(1)(1) Rhaid i Weinidogion Cymru gynnal cofrestr sy’n cynnwys gwybodaeth am yr unedau carbon i’w credydu i gyfrif allyriadau net Cymru o dan y Rheoliadau hyn.

(2) Mewn perthynas ag unedau carbon a gredydir o dan reoliad 5(2), rhaid i’r gofrestr gynnwys y manylion a ganlyn—

(a)     y dyddiad dileu;

(b)     y dyddiad trosglwyddo i gyfrif credyd Cymru;

(c)     dyddiad unrhyw ddatganiad gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 5(2);

(d)     y flwyddyn y mae’r unedau i’w credydu ynddi;

(e)     swm yr unedau a gredydir.

Dirprwyo swyddogaethau

7. Caiff Gweinidogion Cymru ddirprwyo i berson y gwaith o gyflawni unrhyw un neu ragor o’r swyddogaethau a roddir iddynt neu a osodir arnynt gan y Rheoliadau hyn.

 

Enw

Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru

Dyddiad

 

 



([1])           2016 dccc 3.

([2])           O.S. 2012/3038.

([3])           O.J. Rhif L 122, 3.5.13, t. 1.